Newyddion Natur Ceredigion News

Newyddion Natur Ceredigion News

Archives
Log in
Subscribe
October 23, 2026

Fflach Newyddion Natur Ceredigion 23/10/26

Newyddion Natur Ceredigion News Newyddion Natur Ceredigion News

Fflach Newyddion Natur Ceredigion 23/10/26

Gwylio’r Gwyllt Gorllewin Cymru

Sesiynau cofnodi bywyd gwyllt am ddim gyda Chanolfan Gwybodaeth Bioamrywiaeth Gorllewin Cymru. Ffordd wych o ddarganfod a chofnodi bywyd gwyllt lleol.

Tachwedd 10am – 1pm.

  • Dydd Mercher 4 Tachwedd – Gwarchodfa Natur Ynyslas, chwilio am ffyngau.
  • Dydd Mercher 11 Tachwedd – Gwarchodfa Natur Corsydd Teifi, Aberteifi, archwilio bywyd gwyllt lleol.
  • Dydd Sadwrn 14 Tachwedd – Sefydliad y Merched Llanafan, sesiwn ffyngau dan do ac awyr agored.
  • Dydd Sadwrn 21 Tachwedd – Neuadd Bentref Aberporth, archwilio bywyd gwyllt lleol.
  • Dydd Gwener 23 Tachwedd - Coed Taliesin. Wedi'i ganslo oherwydd gwyntoedd cryfion.

Gweithdai yn Fferm Denmarc

  • Iau 22 Hyd - Prosesu Coed Tân i Ddechreuwyr
  • Iau 5 Tach - Plygu Gwrychoedd (2 ddiwrnod) (llun 1)
  • Mer 11 Tach - Adnabod Coed yn y Gaeaf (AM DDIM*)
  • Iau 19 Tach - Coedlannu (AM DDIM*)
  • Sad 21 Tach - Gwneud bloc torri a morthwyl bren
  • Sul 22 Tach - Gwneud Ceffyl Naddu (llun 2)
  • Iau 26 Tach - Cwrs Cymorth Cyntaf Awyr Agored (2 ddiwrnod)

COP17: Gweithredu Byd-eang ar gyfer Bioamrywiaeth

Mae Cynhadledd Bioamrywiaeth y Cenhedloedd Unedig yn cael ei chynnal yn Yerevan, Armenia, gan ddod â gwledydd at ei gilydd i adolygu cynnydd tuag at dargedau bioamrywiaeth byd-eang a chytuno ar gamau gweithredu i atal a gwrthdroi colledion natur erbyn 2030. Dydd Llun 19 Hydref – Dydd Gwener 30 Hydref.

Wwsh ar y Brwsh – Hwyl Hanner Tymor

Ymunwch â Neuadd Gymunedol y Borth am grefftau, straeon a hwyl wedi'u hysbrydoli gan Wwsh ar y Brwsh. Dydd Mawrth 27 Hydref 10am–12pm. £3 y plentyn.

Helpwch Glychau'r Gog ym Mharc Natur Penglais

Ymunwch â phartïon gwaith gwirfoddol i glirio mieri a helpu i wella arddangosiadau clychau'r gog ar gyfer 2027. Dydd Mercher 4 Tachwedd a dydd Mercher 2 Rhagfyr o 10am, cyfarfod yn Llannerch y Ffawydd neu ar hyd y prif lwybr. Dewch â menig cryf a matog os oes gennych un. Bydd te, coffi a bisgedi yn cael eu darparu. Cysylltwch â John Marshall yn [email protected] am fanylion.

Busnes Cymru yn Cefnogi Meithrinfeydd Coed

Dewch i gael cyngor wedi'i deilwra ar sefydlu a gweithredu meithrinfa goed, sy'n cwmpasu cymorth busnes, strwythurau cyfreithiol, cydymffurfiaeth, cyllid a marchnata digidol. Addas ar gyfer meithrinfeydd coed newydd a rhai sydd wedi’u hen sefydlu. Dydd Llun 2 Tachwedd am 1pm ar-lein.

Cwrs Rheoli Coetiroedd Cynaliadwy

Dysgwch sgiliau ymarferol a damcaniaethol ym maes rheoli coetiroedd cynaliadwy a gwarchod bioamrywiaeth yng Nghanolfan y Dechnoleg Amgen. Dydd Llun 2 Tachwedd – Dydd Gwener 6 Tachwedd.

Sgwrs Iechyd Planhigion

Dysgwch ar-lein am ddeddfwriaeth iechyd planhigion, cofrestru meithrinfa goed gymunedol, pasbortau planhigion, plâu a chlefydau coed, a bioddiogelwch meithrinfeydd. Dydd Mercher 4 Tachwedd 10–11am.

AHPA: AR-LEIN

Bydd APHA, yr Asiantaeth Anifeiliaid a Phlanhigion, yn cynnal sgwrs fer ar sut i gofrestru gyda nhw, Pasbortau Planhigion a rhai plâu allweddol. Dydd Mercher 4 Tachwedd 10-11am.

Pontio Gwyrdd yng Ngheredigion

Hoffai Grŵp Aberystwyth Gwyrddach eich gwahodd i fore  fydd yn ystyried Y Pontio Gwyrdd yng Ngheredigion, gyda’r ffocws ar brosiectau ardir arfaethedig.  Ceir tair sgwrs gan arbenigwyr yn y maes a bydd cyfle i ofyn cwestiynau a thrafod. Dydd Sadwrn 7 Tachwedd 10:00yb-2:00yp. Theatr Arad Goch, Aberystwyth.

Adfer Coetir a Gwyfynod

Canlyniadau prosiect sy'n edrych ar effeithiau adfer coetiroedd ar wyfynod yn yr Alban. Dydd Mawrth 10 Tachwedd 1-2pm.

YSTLUMOD

Ystlumod Prydain, eu Hecoleg a'u Cadwraeth

Cwrs rhagarweiniol wedi'i gynllunio i ddysgu popeth y mae angen i chi ei wybod i gymryd rhan weithgar mewn gwaith gwarchod ystlumod. Bob dydd Iau o 5 Tachwedd i 10 Rhagfyr = £114.

Digwyddiadau Ystlumod

Digwyddiadau yng Nghaerdydd neu ar-lein ym mis Tachwedd 10am–5pm.

  • Diwrnod Gweithwyr Ystlumod Cymru – Dewch i gwrdd â gweithwyr ystlumod proffesiynol a gwirfoddol ac archwilio ffyrdd o gefnogi gwaith gwarchod ystlumod. Dydd Sadwrn 7 Tachwedd
  • Cynhadledd Genedlaethol Gofal Ystlumod – Ar gyfer rhai sy’n adsefydlu ystlumod a gweithwyr proffesiynol milfeddygol, gan gynnwys sgyrsiau arbenigol a gweithdai ymarferol ar ofal ystlumod. Dydd Sul 8 Tachwedd

SWYDDI

Cynorthwyydd Dyngarwch a Chodi Arian

Ymddiriedolaeth yr Afonydd. Dyddiad cau: Dydd Sul 1 Tachwedd.

Hyfforddwr/Hwylusydd

Canolfan y Dechnoleg Amgen. Dyddiad cau: Dydd Llun 9 Tachwedd am 9am.

Diolch yn fawr am eich holl gyfraniadau. Daliwch i’w hanfon. I ymuno â’r rhestr bostio hon neu i’w gadael, cysylltwch â [email protected]

Many thanks to all for your contributions, please keep them coming. To join or leave this mailing list, please contact [email protected]

Rydym yn croesawu gohebiaeth yn Gymraeg a Saesneg. Cewch ateb Cymraeg i bob gohebiaeth Gymraeg ac ateb Saesneg i bob gohebiaeth Saesneg. Ni fydd gohebu yn Gymraeg yn arwain at oedi.

We welcome correspondence in Welsh and English. Correspondence received in Welsh will be answered in Welsh and correspondence in English will be answered in English. Corresponding in Welsh will not involve any delay.

Ymwadiad:

Er y cymerir pob gofal posib i sicrhau cywirdeb unrhyw wybodaeth a chyngor a roddir yn yr ohebiaeth hon, ni dderbynnir atebolrwydd am unrhyw golledion a all godi o unrhyw gamgymeriadau sy'n gynwysedig ac fe'ch atgoffir o'r angen i chi ofyn am gyngor proffesiynol eich hun.

Bwriedir y neges ebost hon, ac unrhyw atodiadau iddi, at sylw'r person(au) y'i danfonwyd atynt yn unig. Os nad chi yw'r derbynnydd y cyfeiriwyd y neges hon ato ef neu hi, neu'r person sydd gyfrifol am drosglwyddo'r neges hon iddo ef neu hi, mi ddylech hysbysu'r anfonwr ar eich union. Oni bai mai chi yw'r person neu gynrychiolydd y person y cyfeiriwyd y neges hon at ef neu hi nid ydych wedi eich awdurdodi i, ac ni ddylech chi, ddarllen, copio, dosbarthu, defnyddio na chadw'r neges hon nac unrhyw gyfran ohoni.

O dan GDPR y DU, Deddf Diogelu Data 2018, a Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000, gellir datgelu cynnwys yr e-bost hwn.

Disclaimer:

While reasonable care is taken to ensure the correctness of any information and advice given in this correspondence no liability is accepted for losses arising from any errors contained in it and you are reminded of the need to obtain your own professional advice.

The information in this email and any attachments is intended solely for the attention and use of the named addressee(s). If you are not the intended recipient, or person responsible for delivering this information to the intended recipient, please notify the sender immediately. Unless you are the intended recipient or his/her representative you are not authorised to, and must not, read, copy, distribute, use or retain this message or any part of it.

Under the UK GDPR, Data Protection Act 2018 and the Freedom of Information Act 2000 the contents of this email may be disclosed.

You just read issue #200 of Newyddion Natur Ceredigion News. You can also browse the full archives of this newsletter.

Room on THe Broom 26 Eng.pdf
Download
Green Transition Cym.pdf
Download
← Newer Ceredigion Nature Newsflash 23/10/26 Older → Newyddion Natur Ceredigion 16/10/26
naturceredigion.cymru
Powered by Buttondown, the easiest way to start and grow your newsletter.