Newyddion Natur Ceredigion News

Newyddion Natur Ceredigion News

Archives
Log in
Subscribe
November 20, 2026

Fflach Newyddion Natur Ceredigion 20/11/26

Newyddion Natur Ceredigion News Newyddion Natur Ceredigion News

Newyddion Natur Ceredigion

Flach Newyddion — Dydd Gwener 20 Tachwedd 2026

🌿 Rydym bellach ar Facebook🦋

Mae bellach yn haws nag erioed cysylltu â chymuned natur Ceredigion a rhannu'r hyn rydych chi'n ei wneud.

P'un a ydych chi'n cynnal prosiect cymunedol, yn trefnu digwyddiad, yn cymryd rhan mewn gweithgareddau bywyd gwyllt neu'n dathlu stori lwyddiant natur, byddem wrth ein bodd yn clywed gennych. Rhannwch eich newyddion, eich lluniau a'ch digwyddiadau gyda ni er mwyn inni helpu i ledu'r gair!

💚 Dilynwch ein tudalen, rhannwch hi gyda ffrindiau ac eraill sy’n dwlu ar fyd natur, a chofiwch ein tagio yn eich newyddion natur.

Gyda'n gilydd, gadewch i ni dyfu cymuned #NaturCeredigion a gwneud gwahaniaeth i fyd natur a phobl ledled Ceredigion! 🌱

Gwylio’r Gwyllt Gorllewin Cymru

Sesiynau cofnodi bywyd gwyllt am ddim gyda Chanolfan Gwybodaeth Bioamrywiaeth Gorllewin Cymru. Ffordd wych o ddarganfod a chofnodi bywyd gwyllt lleol.

Tachwedd 10am – 1pm.

Dydd Sadwrn 21 Tachwedd – Neuadd Bentref Aberporth, archwilio bywyd gwyllt lleol.

Partneriaeth Natur Ceredigion – Cylch Gorchwyl

Rydym wedi paratoi ail ddrafft o Gylch Gorchwyl Partneriaeth Natur Ceredigion. Mae hwn yn nodi pwrpas y Bartneriaeth, sut rydym yn gweithio gyda'n gilydd, aelodaeth, rolau a chyfrifoldebau, a sut mae'r Bartneriaeth wedi'i threfnu.

Bydd Cylch Gorchwyl y cytunwyd arno yn rhoi dealltwriaeth gyffredin inni o’r ffordd y mae'r Bartneriaeth yn gweithredu ac yn helpu i lywio ein gwaith i ddiogelu a gwella natur ledled Ceredigion.

Rydym am glywed gennych chi! Cymerwch ychydig funudau i ddarllen y drafft atodedig a rhowch wybod i ni os oes gennych unrhyw sylwadau, newidiadau i’w hawgrymu neu os ydych yn teimlo bod rhywbeth ar goll.

Anfonwch eich adborth i [email protected] erbyn dydd Gwener 5 Rhagfyr.

Beth sy'n digwydd nesaf? Byddwn yn ystyried yr holl adborth, yn gwneud unrhyw ddiwygiadau angenrheidiol ac yn cylchredeg y fersiwn derfynol i aelodau a phartneriaid y Bartneriaeth i gytuno arni’n ffurfiol.

Diolch am helpu i lunio dyfodol Partneriaeth Natur Ceredigion!

Cofnodion

Gweler ynghlwm gofnodion cyfarfod chwarterol Haf Partneriaeth Natur Leol Ceredigion a gynhaliwyd ym mis Hydref yng Nghaerwedros.

Gweithgareddau

Cyfrif Wyau Blynyddol yn Naturewise

Paul Taylor - Cofnodydd Sir, Gwarchod Gloynnod Byw

Ymunwch â'r cyfrif wyau blynyddol, a gwblheir fel arfer mewn hanner diwrnod. Mae opsiwn hefyd i aros am y prynhawn ar gyfer gweithdy gwneud torchau = £15
Dydd Sadwrn 21 Tachwedd 10am. Parc Teifi, Aberteifi. Cwrdd heibio i'r Orsaf Heddlu, ym mhen draw’r heol drwy'r giât. Cyfarwyddiadau.

Gweithdy Gwneud Torchau

Gwnewch dorch Nadoligaidd, fioddiraddadwy gan ddefnyddio gwyrddni lleol. Darperir yr holl ddeunyddiau. £15 i’r rhai nad ydynt yn wirfoddolwyr; mae gwirfoddolwyr yn talu'r hyn y gallant. Gweler yr atodiad.
Dydd Sadwrn 21 Tachwedd – 4pm. Naturewise.

Symposiwm Rhithwir Coetir Trefol

Archwiliwch ymchwil a phrosiectau cyfredol sy'n canolbwyntio ar goetiroedd trefol.
Dydd Llun 23 Tachwedd 10am–1pm. Ar-lein = £1+

Rheoli Sbesimenau Diptera

Dysgwch sut i brosesu, cadw a rheoli sbesimenau pryfed ar gyfer cofnodi, ymchwilio a chasgliadau cyfeirio.
Dydd Mawrth 24 Tachwedd 6-7.30pm. Ar-lein = £12.50

Gweminarau Morgrug

Diwrnod y Morgrug Hedegog

A oes wir y fath beth â "diwrnod y morgrug hedegog"? Ymchwiliwch i'r pwnc yn y weminar hon. Dydd Mercher 4 Rhagfyr.

Morgrug Myrmica

Dysgwch am y grŵp hwn o forgrug a all fod yn anodd eu hadnabod ac sy'n cynnwys y Morgrugyn Coch Cyffredin. Dydd Mawrth 1 Rhagfyr 6-7.30pm.

Ymgynghoriadau

Cyfyngu ar Gŵn ar Draeth y Borth

Mae Cyngor Sir Ceredigion yn ceisio barn ynghylch a ddylid adnewyddu’r Gorchymyn Diogelu Mannau Agored Cyhoeddus sy’n cyfyngu ar gŵn ar ran o Draeth y Borth rhwng mis Mai a mis Medi.
Dydd Iau 26 Tachwedd 12–7pm. Digwyddiad galw heibio yn Neuadd Gymunedol y Borth.
Dydd Mercher 23 Rhagfyr ymgynghoriad yn cau.

Swyddi

Uwch Gynghorydd Trechu Troseddau Gwastraff

Cyfoeth Naturiol Cymru. Dyddiad cau: Dydd Mercher 25 Tachwedd.

Swyddog Cefnogi Gwirfoddolwyr Llwybrau - Cymru

Cerddwyr. Dyddiad cau: Dydd Sul 29 Tachwedd.


Portrait of Gill in front of coastline and boats

Gill Clark
Cydlynydd / Coordinator
Partneriaeth Natur Ceredigion
Ceredigion Nature Partnership

Ar ran y tîm cyfan / On behalf of the whole team

Diolch yn fawr am eich holl gyfraniadau. Daliwch i’w hanfon. I ymuno â’r rhestr bostio hon neu i’w gadael, cysylltwch â [email protected]

Many thanks to all for your contributions, please keep them coming. To join or leave this mailing list, please contact [email protected]

Rydym yn croesawu gohebiaeth yn Gymraeg a Saesneg. Cewch ateb Cymraeg i bob gohebiaeth Gymraeg ac ateb Saesneg i bob gohebiaeth Saesneg. Ni fydd gohebu yn Gymraeg yn arwain at oedi.

We welcome correspondence in Welsh and English. Correspondence received in Welsh will be answered in Welsh and correspondence in English will be answered in English. Corresponding in Welsh will not involve any delay.

Ymwadiad:

Er y cymerir pob gofal posib i sicrhau cywirdeb unrhyw wybodaeth a chyngor a roddir yn yr ohebiaeth hon, ni dderbynnir atebolrwydd am unrhyw golledion a all godi o unrhyw gamgymeriadau sy'n gynwysedig ac fe'ch atgoffir o'r angen i chi ofyn am gyngor proffesiynol eich hun.

Bwriedir y neges ebost hon, ac unrhyw atodiadau iddi, at sylw'r person(au) y'i danfonwyd atynt yn unig. Os nad chi yw'r derbynnydd y cyfeiriwyd y neges hon ato ef neu hi, neu'r person sydd gyfrifol am drosglwyddo'r neges hon iddo ef neu hi, mi ddylech hysbysu'r anfonwr ar eich union. Oni bai mai chi yw'r person neu gynrychiolydd y person y cyfeiriwyd y neges hon at ef neu hi nid ydych wedi eich awdurdodi i, ac ni ddylech chi, ddarllen, copio, dosbarthu, defnyddio na chadw'r neges hon nac unrhyw gyfran ohoni.

O dan GDPR y DU, Deddf Diogelu Data 2018, a Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000, gellir datgelu cynnwys yr e-bost hwn.

Disclaimer:

While reasonable care is taken to ensure the correctness of any information and advice given in this correspondence no liability is accepted for losses arising from any errors contained in it and you are reminded of the need to obtain your own professional advice.

The information in this email and any attachments is intended solely for the attention and use of the named addressee(s). If you are not the intended recipient, or person responsible for delivering this information to the intended recipient, please notify the sender immediately. Unless you are the intended recipient or his/her representative you are not authorised to, and must not, read, copy, distribute, use or retain this message or any part of it.

Under the UK GDPR, Data Protection Act 2018 and the Freedom of Information Act 2000 the contents of this email may be disclosed.

You just read issue #207 of Newyddion Natur Ceredigion News. You can also browse the full archives of this newsletter.

Minutes 20.10.26_cy-GB.pdf
Download
CLNP Terms of Reference Cym.pdf
Download
Wreath Workshop.pdf
Download
Older → Ceredigion Nature Newsflash 13/11/26
naturceredigion.cymru
Powered by Buttondown, the easiest way to start and grow your newsletter.