Newyddion Natur Ceredigion News logo

Newyddion Natur Ceredigion News

Archives
20 March 2026

Fflach Newyddion Natur Ceredigion 20/03/2026

Fflach Newyddion Natur Ceredigion

20/03/2026

Cyfarfod Partneriaeth Natur Leol Ceredigion - Nodwch y dyddiad.

Bydd y cyfarfod chwarterol hybrid nesaf yn digwydd ddydd Mawrth 21 Ebrill 10am-5pm yng Ngheinewydd.
Yn ogystal â siaradwyr cyffrous, byddwn yn trefnu TAITH AM DDIM MEWN CWCH o gwmpas Carreg yr Adar. Does dim angen ichi ddod i’r cyfarfod na bod yn aelod i fynd ar y daith, ond caiff y lleoedd eu rhoi ar sail y cyntaf i ateb. Manylion trefnu i ddilyn.

Gweler cofnodion y cyfarfod diwethaf sydd ynghlwm.

Gweithdy Compostio

Dewch i ddysgu am Warchodfeydd Natur ym Mhenparcau a sut i ddelio â’ch gwastraff gardd yn Hyb Penparcau. Gweler ynghlwm am sesiynau taro heibio o 1 awr. Dydd Llun 30 Mawrth.


Gweithdy’n cynnwys cyngor ymarferol am wastraff gardd, compostio, garddio er mwyn bywyd gwyllt, rhywogaethau ymledol a thyfu eich bwyd eich hun.
Lluniaeth a bwyd o 1.00pm.


Bin compostio am ddim ar gael i drigolion Penparcau – dim ond ychydig ar gael.

Ymweld mewn sesiynau 1 awr:
12.00pm – 1.00pm, 1.00pm – 2.00pm, 2.00pm – 3.00pm,
3.00pm – 4.00pm.

Ffilm Gymunedol Ceredigion

Gwahoddwn chi i gymryd rhan mewn ffilm gymunedol fer yn rhannu ein cariad at ein moroedd a’n hafonydd lleol, wedi ei hysbrydoli gan ‘Diolch Fôr’ gan Surfers Against Sewage. Gweler ynghlwm.

Eich Lle Gwyllt

Sesiynau am ddim i gofnodi bywyd gwyllt 10am-1pm gyda Chanolfan Gwybodaeth Bioamrywiaeth Gorllewin Cymru. Ffordd wych i ddarganfod bywyd gwyllt yn lleol. Gweler ynghlwm.

  • Dydd Sadwrn 21 Mawrth: Gwarchodfa Natur Cors Caron.

  • Dydd Mercher 25 Mawrth: Castell Aberystwyth.

HWYL Y GWYLIAU GYDA NATUR

Llesiant yn y Coedydd

Fforio yn y gwanwyn, crefftau natur a hela wyau Pasg. Dydd Sul 5 Ebrill 11am-2pm. Elemental Adventures, Rhydlewis.

Clwb Archwilwyr y Coedydd

Sesiwn i adael plant 6-12 oed ar gyfer coginio â thân, gwaith pren gwyrdd, coed, gwelyau crog a leinau llac = £46 y plentyn. Gweler ynghlwm.

  • Dydd Iau 9 Ebrill a dydd Iau 13 Awst: Cors-lan, Lledrod.

  • Dydd Iau 30 Gorffennaf a dydd Iau 27 Awst: Coedydd Taliesin.

Clwb Gwyliau Morladron y Coed

Diwrnodau gweithgaredd i adael plant yn Llandysul drwy’r gwyliau ysgol. Rhaid trefnu.

GWEITHGAREDDAU

Grym Ceirch

Dod i wybod sut mae Aberystwyth yn llunio dyfodol eich brecwast. Nos Lun 23 Mawrth 7.30pm.

Cynhadledd Flynyddol y Gymdeithas Mamaliaid

Ymunwch yn y ffrydio byw o Gynhadledd Flynyddol y Gymdeithas Mamaliaid, yn uniongyrchol o Inverness. Dydd Gwener 27 Mawrth 9.30am-5pm = £40+

Taith y Draenog

Cerdded am 3km i godi arian hanfodol er mwyn natur rhwng dydd Llun 30 Mawrth a dydd Iau 30 Ebrill.

Gwylio Adar gyda Branwen

Ymunwch â Branwen Munn, Coedwigydd Ystâd Llannerch Aeron am ddigwyddiad cyfeillgar i adnabod adar yn Llannerch Aeron Dydd Sadwrn 21 Mawrth 10am-1pm.

Digwyddiadau Gardd Enfys

  • Gweithdy Te Perlysiau: Dydd Mawrth 31 Mawrth 10am – 12.30pm.

  • “Sut i Dyfu Bwyd” Sgwrs am Lyfr – Dydd Sadwrn 11 Ebrill 11am.

Môr o Synhwyrau

Ymunwch â Chanolfan Bywyd Gwyllt y Môr ym Mae Ceredigion i archwilio amgylchedd y môr gan ddefnyddio’r pum synnwyr. Dydd Sadwrn 11 Ebrill = £5.04.

WEBINARAU

Dechrau Coedlan Newydd

Gweld beth sy’n digwydd yn y 12 mis cyntaf. Nos Iau 26 Mawrth

6-7pm.

Llwybrau Plâu

Gwaith ymchwil yn defnyddio SIAR (Stable Isotope Ratio Analysis) i ddangos tarddiad a llwybrau pryfed sy’n bla. Dydd Mawrth 7 Ebrill 1-2pm.

Toeau Gwyrdd

A all Toeau Gwyrdd fod yn Ecosystemau Gwirioneddol? Dydd Mawrth 11 Awst 1-2pm.

ARIANNU

Grant Cymunedau Iachach Ceredigion

Grantiau hyd at £5000 ar gyfer gweithgareddau gan y gymuned i helpu pobl i gadw’n brysur, gwella iechyd y meddwl, cadw cysylltiadau cymdeithasol a bwyta’n iach sy’n gallu helpu lleihau perygl cael cyflyrau fel Dementia. Dyddiad cau: Dydd Mawrth 31 Mawrth.

Cynllun Grant Strategol Gwirfoddoli Cymru

Grantiau strategol rhwng £50,000 a £100,000 i ddatblygu dulliau a mentrau newydd neu well neu adeiladu arnynt ar gyfer gwirfoddoli ledled Cymru.

Sefydliad y Teulu Ashley

Arian i ysbrydoli cynaliadwyedd yr amgylchedd a’r celfyddydau creadigol yng Nghymru, er lles cymunedau gwledig a phobl mewn angen.

CYRSIAU A DARLITHIAU

Cyrsiau Ar-lein

Cyrsiau ar-lein gan y Cyngor Astudiaethau Maes yn dechrau ddydd Mercher 1 Ebrill.

  • Darganfod Botaneg

  • Darganfod Corynnod

Darlithiau Ymchwil Creaduriaid Di-asgwrn Cefn Ar-lein

  • Darganfod Llwybrau Pryfed sy’n Bla - Dydd Mawrth 7 Ebrill

  • Gwenyn yr Iard Gefn: Mannau Gwyrdd Preifat ac Amrywiaeth Peillwyr mewn Dinasoedd - Dydd Mercher 22 Ebrill

  • Rhestru Pan-Rywogaethau: Sut i fod yn Naturiaethwr Gwych - Dydd Mercher 13 Mai.

  • Cynefinoedd Dŵr Croyw yn Iwerddon sydd heb eu harchwilio: Astudiaethau Achos gan Ddefnyddio Pryfed Afon - Dydd Iau 28 Mai.

  • Ffrind, Gelyn neu Fanteisiwr? Cranc-gorryn y Blodau - Dydd Mawrth 2 Mehefin.

SWYDDI A GWIRFODDOLI

Sesiynau Gwybodaeth am Wirfoddoli

Ymunwch â Sesiynau CAVO am Wybodaeth Gwirfoddoli i ddarganfod cyfleoedd a chefnogaeth sydd ar gael.
Canolfan Byd Gwaith Aberystwyth - Dydd Mercher 25 Mawrth 10am – 4pm.

Swyddi Nature Spy

Dwy swydd i weithio gartref. Dyddiad cau: Dydd Mercher 25 Mawrth.

  • Cynghorydd Technegol Bywyd Gwyllt

  • Cynorthwyydd Prosiectau Cadwraeth

Swyddog Gweithredu ar Dipio Anghyfreithlon

Cyfoeth Naturiol Cymru. Dyddiad cau: Dydd Sul 29 Mawrth.

Ecolegydd Prosiectau

Awdurdod Adfer Gwaith Cloddio. Dyddiad cau: Dydd Sul 29 Mawrth.

Dylunydd Graffig Uwch

Cyfeillion y Ddaear. Dyddiad cau: Dydd Llun 30 Mawrth.

Ecolegydd Llawrydd De / Gorllewin Cymru

Dyddiad cau: Dydd Mercher 1 Ebrill.

Swyddog Prosiectau

Coetir Anian – Dyddiad cau: Dydd Llun 6 Ebrill.

Angen Ymddiriedolwyr

Mae Ymddiriedolaeth Tŷ Glyn Davis yn chwilio am Ymddiriedolwyr gwirfoddol newydd i ymuno â’r Bwrdd a helpu llywio dyfodol yr elusen. Dyddiad cau: Dydd Mawrth 14 Ebrill.

Cyfleoedd Tir Natur

  • Rheolwr Cyfathrebu

  • Swyddog Ailwylltio dan Hyfforddiant

  • Swyddog Cymunedau a Gwirfoddolwyr

Diolch yn fawr am eich holl gyfraniadau. Daliwch i’w hanfon. I ymuno â’r rhestr bostio hon neu i’w gadael, cysylltwch â biodiversity@ceredigion.gov.uk

Many thanks to all for your contributions, please keep them coming. To join or leave this mailing list, please contact biodiversity@ceredigion.gov.uk

Rydym yn croesawu gohebiaeth yn Gymraeg a Saesneg. Cewch ateb Cymraeg i bob gohebiaeth Gymraeg ac ateb Saesneg i bob gohebiaeth Saesneg. Ni fydd gohebu yn Gymraeg yn arwain at oedi.

We welcome correspondence in Welsh and English. Correspondence received in Welsh will be answered in Welsh and correspondence in English will be answered in English. Corresponding in Welsh will not involve any delay.

Ymwadiad:

Er y cymerir pob gofal posib i sicrhau cywirdeb unrhyw wybodaeth a chyngor a roddir yn yr ohebiaeth hon, ni dderbynnir atebolrwydd am unrhyw golledion a all godi o unrhyw gamgymeriadau sy'n gynwysedig ac fe'ch atgoffir o'r angen i chi ofyn am gyngor proffesiynol eich hun.

Bwriedir y neges ebost hon, ac unrhyw atodiadau iddi, at sylw'r person(au) y'i danfonwyd atynt yn unig. Os nad chi yw'r derbynnydd y cyfeiriwyd y neges hon ato ef neu hi, neu'r person sydd gyfrifol am drosglwyddo'r neges hon iddo ef neu hi, mi ddylech hysbysu'r anfonwr ar eich union. Oni bai mai chi yw'r person neu gynrychiolydd y person y cyfeiriwyd y neges hon at ef neu hi nid ydych wedi eich awdurdodi i, ac ni ddylech chi, ddarllen, copio, dosbarthu, defnyddio na chadw'r neges hon nac unrhyw gyfran ohoni.

O dan GDPR y DU, Deddf Diogelu Data 2018, a Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000, gellir datgelu cynnwys yr e-bost hwn.

Disclaimer:

While reasonable care is taken to ensure the correctness of any information and advice given in this correspondence no liability is accepted for losses arising from any errors contained in it and you are reminded of the need to obtain your own professional advice.

The information in this email and any attachments is intended solely for the attention and use of the named addressee(s). If you are not the intended recipient, or person responsible for delivering this information to the intended recipient, please notify the sender immediately. Unless you are the intended recipient or his/her representative you are not authorised to, and must not, read, copy, distribute, use or retain this message or any part of it.

Under the UK GDPR, Data Protection Act 2018 and the Freedom of Information Act 2000 the contents of this email may be disclosed.

Gweithdy Compostio.pdf
Download
WWBIC_Gwylio_Gwyllt_Gorllewin_Cymru_Mawrth.01.pdf
Download
02 and 03 Woodland Explorers Easter and summer sessions 2026 (1).pdf
Download
Diolch fôr_Ffilm Gymunedol Ceredigion_yn Gymraeg.pdf
Download
Cofnodion 20 Ionawr 2026.pdf
Download
Don't miss what's next. Subscribe to Newyddion Natur Ceredigion News:
Share this email:
Share on Facebook Share via email Share on Mastodon Share on Bluesky
naturceredigion.cymru
Facebook
pixelfed.social
Powered by Buttondown, the easiest way to start and grow your newsletter.