Newyddion Natur Ceredigion News logo

Newyddion Natur Ceredigion News

Archives
20 February 2026

Fflach Newyddion Natur Ceredigion 20/02/2026

Fflach Newyddion Natur Ceredigion

20/02/2026

Gŵyl Natur Ceredigion

Mae Partneriaeth Natur Leol Ceredigion yn cynnal gŵyl natur yn Aberystwyth ddydd Sadwrn 11 Gorffennaf fel rhan o Wythnos Natur Cymru.

Rydym yn chwilio am unigolion, grwpiau a sefydliadau brwdfrydig a fyddai’n hoffi cael stondin yn y digwyddiad. Oes gennych chi rywbeth i’w ddangos, neges i’w chyhoeddi, gweithgaredd yr hoffech ei rannu neu rywbeth i’w werthu? Cysylltwch ar biodiversity@ceredigion.gov.uk

Gwylio’r Gwyllt yng Ngorllewin Cymru - Chwefror.

Sesiynau recordio bywyd gwyllt am ddim gyda Chanolfan Gwybodaeth Bioamrywiaeth Gorllewin Cymru. Addas i bawb a’r holl adnoddau’n cael eu darparu. Gweler ynghlwm.

  • Cwmtydu - Dydd Sadwrn 21 10-1pm.

  • Llanilar- Dydd Sadwrn 28 10-1pm.

Eiriolwyr Llwybrau

A hoffech chi helpu i ddatblygu ymdeimlad o falchder a pherchnogaeth ym mannau gwyrdd eich cymuned? Mae tîm Hawliau Tramwy Cyhoeddus Cyngor Sir Ceredigion yn lansio 'Pencampwyr Llwybrau,' cynllun gwirfoddol sy'n anelu at helpu cefnogi a chynnal mannau gwyrdd, gan gynnwys llwybrau troed a llwybrau ceffylau, ynghyd â gweithredu dulliau rheoli llystyfiant a fydd yn helpu gwella bioamrywiaeth. Os hoffech wybod mwy, cysylltwch â Bethan neu Jill drwy clic@ceredigion.gov.uk Gweler ynghlwm.

GWEITHGAREDDAU

Digwyddiadau Prosiect Arfordir Teifi

Darganfod cyflenwadau o fwyd môr cynaliadwy gyda Catch of the Day a Pharterniaeth Natur Leol Ceredigion. Gweithgareddau, dysgu a choginio. Cysylltwch â catchofthedaycardigan@btconnect.com.

Caffe Gwyddoniaeth Aberystwyth

Dydd Llun 16 Chwefror 7.30pm. A ddylem dyfu mwy o gywarch? Beth yw canlyniadau a chyfyngiadau ei fabwysiadu’n ehangach? Bar Theatr Canolfan y Celfyddydau. Croeso i bawb.

Ysgol y Goedwig - Dechrau’r Gwanwyn

Sesiynau ysgol y goedwig ar ddydd Sul 1.30 - 3.30pm, yn cael eu penderfynu a’u llunio o gwmpas gallu a diddordeb y rhai sy’n cymryd rhan gyda Natur Ni - Taliesin. O £16 o ddisgownt drwy drefnu i nifer.

  • Sesiwn 1 – 22 Chwefror

  • Sesiwn 2 – 15 Mawrth

  • Sesiwn 3 – 22 Mawrth

Ffermio Er Gwaethaf y Tywydd

Ffyrdd ymarferol i wella’r pridd, tir porfa a chynhyrchiant eich fferm. Nos Fercher 25 Chwefror 7-9pm. Clwb Rygbi Aberystwyth.

Impio Coed. Cywiro‘r manylion.

Cwrs am ddim (awgrymir cyfraniad o £15) i impio coeden afalau a mynd â hi adre gyda chi. Dydd Gwener 27 Chwefror yn Yr Ardd. Mae’n hanfodol trefnu ymlaen llaw yn steve@tysulyouth.org. Gweler ynghlwm.

Hyfforddiant Cofrestr Coed Hynafol

Diwrnod i ddysgu sut i gofnodi coed hynafol, oedrannus a nodedig yng Nghymru. Dydd Mawrth 3 Mawrth 10am-3.30pm ym Mhlas Plas Tan-y-bwlch = £5.

Gweithdy Byw Mewn Heddwch gyda Natur

Archwilio’r berthynas rhwng pobl a rhywogaethau eraill a hawliau natur, a’r berthynas gyfatebol rhwng stiwardiaeth a llesiant sy’n dod â ni ynghyd, ym Mhrifysgol Aberystwyth ddydd Mercher 4 Mawrth.

Sgrinio’r Môr

Gweld y ffilm hon am ddim gyda’r Arad Goch, Aberystwyth nos Iau 5 Mawrth, 6pm.
A sesiwn holi ac ateb gyda phanel o bobl ysbrydoledig sy’n gweithio i warchod ein moroedd yn lleol. Rhaid trefnu ymlaen llaw drwy’r hyn sydd ynglwm.

Arddangosfa Arloesi Technoleg Bwyd-Amaeth yng Nghymru

Archwilio’r syniadau, y partneriaethau a’r cyfleoedd diweddaraf i lunio dyfodol technoleg bwyd-amaeth. Dydd Iau 5 Mawrth 10am – 3.30pm yn Aberystwyth.

Creaduriaid Di-asgwrn-cefn yr Antarctic

Dysgu am greaduriaid di-asgwrn-cefn y tir sydd i’w cael ar gyfandir mwyaf pellennig y Ddaear: Antarctica. Dydd Iau 5 Mawrth 1-2pm.

Fferm Lletytwpa

Cyngor Sir Ceredigion biau’r fferm hon, sy’n cael ei thrawsnewid yn safle addysgol ar gyfer disgyblion sydd am ddilyn cyrsiau’n ymwneud â’r sectorau amaethyddiaeth a garddwriaeth.

  • Diwrnod Agored i bawb - Dewch i fwynhau diwrnod llawn o weithgareddau ac arddangosiadau a chyfle i drafod y cyfleoedd hyfforddi a fydd ar gael. Dydd Gwener 6 Mawrth 10am-3pm.

Cofrestr Coed Hynafol - Diwrnod Cofnodi

Diwrnod o gofnodi coed hynafol, oedrannus a nodedig ym Machynlleth gydag arweiniad i adnabod a chofnodi. Dydd Sadwrn 7 Mawrth 10.30am-3.30pm.

Cyrsiau Awyr Agored Chwarae Pob Dydd

-   Ysgol y Goedwig Hyfforddiant Lefel 3: Bob dydd Mawrth, mis Mawrth - mis Tachwedd = £1020.

  • Arweinydd Gweithgarwch Natur Lefel 2: Dydd Mawrth 10 - Dydd Gwener 13 Mawrth 9.30 am - 4.30 pm = £800.

SWYDDI

Arweinydd Cyfathrebu Creadigol
Youngwilders CIC. Dyddiad cau: Dydd Llun 2 Mawrth.

Swyddog Cyfathrebu a Marchnata
Partneriaeth NatureSpace. Dyddiad cau: Dydd Llun 9 Mawrth.

Diolch yn fawr am eich holl gyfraniadau. Daliwch i’w hanfon. I ymuno â’r rhestr bostio hon neu i’w gadael, cysylltwch â biodiversity@ceredigion.gov.uk

Many thanks to all for your contributions, please keep them coming. To join or leave this mailing list, please contact biodiversity@ceredigion.gov.uk

Rydym yn croesawu gohebiaeth yn Gymraeg a Saesneg. Cewch ateb Cymraeg i bob gohebiaeth Gymraeg ac ateb Saesneg i bob gohebiaeth Saesneg. Ni fydd gohebu yn Gymraeg yn arwain at oedi.

We welcome correspondence in Welsh and English. Correspondence received in Welsh will be answered in Welsh and correspondence in English will be answered in English. Corresponding in Welsh will not involve any delay.

Ymwadiad:

Er y cymerir pob gofal posib i sicrhau cywirdeb unrhyw wybodaeth a chyngor a roddir yn yr ohebiaeth hon, ni dderbynnir atebolrwydd am unrhyw golledion a all godi o unrhyw gamgymeriadau sy'n gynwysedig ac fe'ch atgoffir o'r angen i chi ofyn am gyngor proffesiynol eich hun.

Bwriedir y neges ebost hon, ac unrhyw atodiadau iddi, at sylw'r person(au) y'i danfonwyd atynt yn unig. Os nad chi yw'r derbynnydd y cyfeiriwyd y neges hon ato ef neu hi, neu'r person sydd gyfrifol am drosglwyddo'r neges hon iddo ef neu hi, mi ddylech hysbysu'r anfonwr ar eich union. Oni bai mai chi yw'r person neu gynrychiolydd y person y cyfeiriwyd y neges hon at ef neu hi nid ydych wedi eich awdurdodi i, ac ni ddylech chi, ddarllen, copio, dosbarthu, defnyddio na chadw'r neges hon nac unrhyw gyfran ohoni.

O dan GDPR y DU, Deddf Diogelu Data 2018, a Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000, gellir datgelu cynnwys yr e-bost hwn.

Disclaimer:

While reasonable care is taken to ensure the correctness of any information and advice given in this correspondence no liability is accepted for losses arising from any errors contained in it and you are reminded of the need to obtain your own professional advice.

The information in this email and any attachments is intended solely for the attention and use of the named addressee(s). If you are not the intended recipient, or person responsible for delivering this information to the intended recipient, please notify the sender immediately. Unless you are the intended recipient or his/her representative you are not authorised to, and must not, read, copy, distribute, use or retain this message or any part of it.

Under the UK GDPR, Data Protection Act 2018 and the Freedom of Information Act 2000 the contents of this email may be disclosed.

Gwylio Gwyllt Gorllewin Cymru_Dyddiad_Chwefror.pdf
Download
TC Cymraeg.pdf
Download
Apple tree grafting 2026-02-27 (1).pdf
Download
Ocean screening and QA 5th March.pdf
Download
Don't miss what's next. Subscribe to Newyddion Natur Ceredigion News:
Share this email:
Share on Facebook Share via email Share on Mastodon Share on Bluesky
naturceredigion.cymru
Facebook
pixelfed.social
Powered by Buttondown, the easiest way to start and grow your newsletter.