Fflach Newyddion Natur Ceredigion 19/06/26
Fflach Newyddion Natur Ceredigion 19/06/26
Gŵyl Natur Ceredigion
Ymunwch â ni am ddiwrnod o fywyd gwyllt, creadigrwydd, darganfod a chymuned yng Ngŵyl Natur Ceredigion, a gynhelir ddydd Sadwrn 11 Gorffennaf, 10am–4pm, ar Dir y Castell, Aberystwyth.
GWYLIO GWYLLT GORLLEWIN CYMRU
Sesiynau cofnodi bywyd gwyllt am ddim gyda Chanolfan Gwybodaeth Bioamrywiaeth Gorllewin Cymru. Ffordd wych o ddarganfod y bywyd gwyllt lleol. 10am – 1pm.
Dydd Mercher 24 Mehefin - Llandysul
Dydd Sul 5fed yng Nghoed Pencoedtop, Ffrostrasol.
Dydd Mercher 8fed ym Mhendinas, Aberystwyth
Dydd Mercher 15fed yn Rhosmaencrug.
Dydd Mercher 22ain yng Nghoed, Ffordd Penglais Aberystwyth
GWEITHGAREDDAU
Digwyddiadau Hyb Cymunedol y Borth - Mehefin
Hyb Natur Ar Agor – dydd Sadwrn 20 Mehefin 11.30am-2.30pm.
Gwybodaeth a Chrefftau Glöynnod Byw – dydd Sadwrn 20 Mehefin 11.30am-1pm.
Pawennau ar y Lan, Cerdded y Ci a chasglu sbwriel. Dydd Sul 21 Mehefin 10.30-11.30am.
Gweminar Rheoli Dŵr
'Coed a Dŵr: Hyrwyddo gwydnwch mewn Meithrinfeydd Coed Cymunedol' – dydd Mercher 24 Mehefin 6.30 – 7.30pm.
Taith Gerdded Chwilota am Fwyd
Ewch am dro o’r afon i’r castell gyda Ffynnon Community Resilience, Cilgerran. Dydd Sadwrn 27 Mehefin 2pm. Gweler ynghlwm.
Gwersyll Natur yr Ysgol Goedwig
Ymunwch â’r Coedwigwyr Ifanc yn Fferm Denmarc gyda’r teulu oll rhwng dydd Sul 5 Gorffennaf a dydd Mercher 8 Gorffennaf am hwyl a sbri yn y goedwig a chyfle i wersylla os mynnwch. Gweler ynghlwm.
Bingo Byd Natur
Ymunwch â Seawatch a Josh y Dyn Bywyd Gwyllt ddydd Sul 12 Gorffennaf 11am-1pm am daith gerdded natur o Geinewydd a thaith gerdded Bingo byd natur. Gweler ynghlwm.
Arweinydd Gweithgareddau Natur Lefel 2
Pedwar diwrnod o hyfforddiant – sy’n gywerth â TGAU.
Dysgu sgiliau ymarferol – tân, offer, llochesi, clymau, coginio ac adnabod planhigion.
Dysgu sut i ddefnyddio eich man gwyrdd mewn modd cynaliadwy
Ni fydd angen asesiad seiliedig ar waith
Bydd mwyafrif y gwaith cwrs yn cael ei gwblhau yn ystod y diwrnodau hyfforddi
Diwrnodau hyfforddi yn Longwood ger Llanbedr Pont Steffan, Ceredigion
Dydd Iau 03.09.26, 10.09.26, 17.09.26, 24.09.26
9.30 am - 4.30 pm = £70
Communitree

Mae Llais y Goedwig yn gweithio ar brosiect CommuniTree, sy’n hyrwyddo cyflenwad o goed o stoc leol yng Nghymru. Rydym wrthi’n chwilio am feithrinfeydd coed ar raddfa fechan sy’n tyfu coed o stoc leol a/neu’n casglu hadau o stoc leol, a hynny er mwyn dechrau mapio’r sector a chael amcan o’r capasiti a’r cymorth sydd ei angen. Os ydych chi’n un ohonynt neu’n gwybod am un, cysylltwch â ni os gwelwch yn dda: jayne@llaisygoedwig.org.uk

SWYDDI
Swyddog Cynaliadwyedd
Gwarchod Glöynnod Byw. Dyddiad cau: dydd Llun 29 Mehefin.
Arweinydd Cyflawni Cyfnewid Gwybodaeth
Y Rhwydwaith Ffermio Cyfeillgar i Natur. Dyddiad cau: dydd Llun 6 Gorffennaf